Ci

Anna Georgina, Dafydd Dabson

Croeso nôl i ti, hen gymar fy ieuenctid
Yn llusgo dy gynffon di, mae llygaid taer a thrist gen ti.
Yn deffro fi bob nos, yn derfysg drwy fy mywyd.
Bob bore gyda fi, tywyllaist haul y dydd i mi.

Paid bod ofn fy ffrind,
Daw'r rhyddid ata ti i ddatod rhywmau'r nos.
Paid bod ofn fy ffrind,
Mae'r gallu gyda thi i'r byd dawelu'n adlewyrchu'r golau sydd yn dy gof.

Hen gymar dyddiau gynt mae pethau wedi newid,
Ufudd wyt ti mi, y tennyn yn fy llaw yn dynn.
Paid meddwl aros a'm twyllo unwaith eto,
Yn syllu arna i, yn gorwedd ar fy nglin o hyd

Paid bod ofn fy ffrind,
Daw'r rhyddid ata ti i ddatod rhywmau'r nos.
Paid bod ofn fy ffrind,
Mae'r gallu gyda thi i'r byd dawelu'n adlewyrchu'r golau sydd yn dy gof.

Other artists of Heavy metal music