Dau Gam

Anna Georgina, Dafydd Dabson

Mae cysgod tu ol i'r drws a'r golau mlaen,
Fy nghlust yn glos i'r pren, anadlu'n blaen.
Digon hawdd fy nghloi i allan a'r nos yn troi'n fain
Mae cysgod tu ol i'r drws a'r golau mlaen

Dringo lawr y staer a rownd y cefn,
Mynd heibio'r car di-do a'r gardd di-drefn
Ond ymysg y dail a'r eithin gwyn mae blodau'n tyfu'n ddel,
A minnau'n dal i ffendio'r ffordd i fewn

Ond mae'r hyn sydd ar y gorwel yn diddanu dydd i ddydd,
Ymysg y gwynt a'r geiriau, dim ond fi, dim ond fi.
Er gwaeth ein ymwybyddiaeth nid oes heddwch yn y byd,
Dim ond fi, dim ond fi.

Dau gam tu ol i'r drws, ti'm angen nhw, ti'm angen nhw, ti'n ok.

Other artists of Heavy metal music