Rhagluniaeth Ysgafn

O dyro i mi Ragluniaeth Ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a'r awel fwyn

A phan ddaw'r amser i gael fy marnu
O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i'r achosion da,
Ac er yr holl deithio, Y llwgr-wobrwyo,
Y cyffuriau caled, Y merched o bedwar ban
Dw i wedi hen flino, Ar fy mhwdr areithio,
Yr holl ddanteithio, Fy mrad o iaith y nef,
Y rhegi cyhoeddus, Y lluniau anweddus,
Fy nghabledd o flaen y groes,
Yr hunan-dosturi, Y cwrw a'r miri,
Fy ofer-ymffrostio, Tra'n rhostio yn y gwledydd poeth.

A phan ddaw'r cyfweliad, Erfynaf am fynediad,
Drwy lidiart y nefoedd I'r cyfoeth ar yr ochr draw.
A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau,
Fy holl rinweddau, Sy'n rhifo ar un llaw.
Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am:

Ragluniaeth ysgafn, Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a phluen dryw

Trivia about the song Rhagluniaeth Ysgafn by Gruff Rhys

When was the song “Rhagluniaeth Ysgafn” released by Gruff Rhys?
The song Rhagluniaeth Ysgafn was released in 2005, on the album “Yr Atal Genhedlaeth”.

Most popular songs of Gruff Rhys

Other artists of Pop rock