Y Bluen Eira

RHIANNON BRYAN, RHYDIAN DAVIES

Be sy'n digwydd dywed
be ddoth o'r cudd-le
Pwy sy'n codi o'r geg
Sy'n brathu nôl yn anheg
Yn hollti y dymuniad

Pwy sy'n pwyso fy mhen
Tyrd a'r bluen wen
Fi di, fi di'r heddwchwr
Mewn stryd o sêr
Tyrd a'r bluen eira, tyrd a'r bluen

Coda'r graig o'r dwr
Does dim tyfiant o'r stwr
Dyma'r atgyfodiad o hynny a ddyled
Dyled ei gladdu

Pwy sy'n rhwygo fy mhen
Tyrd a'r bluen wên
Pwy sy rhaid eu aberthu
Pwy sy rhaid ei nerthu
I ddilyn, dilyn deugryn
Be sy'n digwydd dywed

drych mîl o ffenestri'n siarad
Mae'n hawdd i orwedd yn dy freichiau
A cau y lleni, a cau bwlch y noson.
Dyma'r daith i'r ymylion, dyma'r dibyn o ein sgwrs
Trwm yw y diffeithiwch
a trwm yw ein difetha ni.

Trivia about the song Y Bluen Eira by The Joy Formidable

When was the song “Y Bluen Eira” released by The Joy Formidable?
The song Y Bluen Eira was released in 2018, on the album “Aaarth”.
Who composed the song “Y Bluen Eira” by The Joy Formidable?
The song “Y Bluen Eira” by The Joy Formidable was composed by RHIANNON BRYAN, RHYDIAN DAVIES.

Most popular songs of The Joy Formidable

Other artists of Indie rock